Amdanom ni

Mae adran Ystadau Strategol yn llywio cyfeiriad strategol eiddo Cyngor Caerdydd. Rydym yn cyfrannu at waith Datblygu Economaidd ac yn rhan o’n rôl rydym yn gweithio’n agos â gwasanaethau’r Cyngor i sicrhau bod yn yr ystadau sy’n eiddo i’r Cyngor y cyfleusterau priodol i gyflawni gwasanaethau.
Mae gan Gyngor Caerdydd portffolio eiddo a thir sylweddol, a defnyddir rhan fawr ohono i gyflawni neu i ategu gwasanaethau allweddol. Yn rhan ohono y mae Ysgolion, Swyddfeydd, Depos a Pharciau. Yn ogystal â hynny, mae gennym bortffolio buddsoddi sy’n creu elw gan gynnwys siopau, diwydiannau ysgafn, Tir a Rentir ac, wrth gwrs, Marchnad Caerdydd. Rydym hefyd yn gweithio’n agos â grwpiau cymunedol yn rhan o amrywiaeth o gyfleoedd i Drosglwyddo Asedau i’r Gymuned.
Mae busnes Ystadegau Strategol o ddydd i ddydd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Rheoli Asedau ac Eiddo
  • Caffael eiddo
  • Cael gwared ag eiddo
  • Datblygu’r Ystâd Fuddsoddi
  • Marchnad Caerdydd
  • Rheoli eiddo data a’r System Gwybodaeth Ddaearyddol
  • Ymholiadau ynghylch eiddo

Nid yw tai’r Cyngor yn rhan o’n gwaith. Rheolir hynny gan ein cydweithwyr yng Ngwasanaeth Cymunedau.
Mae Ystadau Strategol yn cydnabod bod eiddo’n adnodd gwerthfawr ac mae’r ffordd rydym yn defnyddio ein hasedau ac yn eu rheoli yn hollbwysig o ran galluogi’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol.

Ymholiadau i Berchnogaeth Tir ac Eiddo

Gallwn gadarnhau p’un a yw tir ym meddiant y Cyngor.

E-bost i propinfo@caerdydd.gov.uk i gadarnhau p’un a yw tir ym meddiant y Cyngor.

Mae hefyd yn bosibl i’r Gofrestrfa Tir roi gwybodaeth am berchnogion tir.

Astudiaethau achos

footer_blue

© Cardiff Council Property - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd