Croeso

Mae Marchnad Caerdydd (neu’r Farchnad Ganolog) yn strwythur Fictoraidd trawiadol sy’n cynnig profiad siopa unigryw yng nghanol dinas fodern a phrysur.

Dan do gwydr mawr gwelwch amrywiaeth eang o gynhyrchion yn amrywio o botiau a phadelli i fara a menyn, ac o nyts a bolltau i sigl a swae. Mae Marchnad Caerdydd wedi bod yn masnachu ar un ffurf neu un arall ers y 1700au.

Mae yno ddwy fynedfa; un sy’n dod o Heol Eglwys Fair, ac un a leolir yn Heol y Drindod, yn agos at Eglwys Sant Ioan.

Gweld masnachwyrGwneud cais am stondin

“Digwyddon ni ddod ar draws y farchnad werthfawr hon. Penderfynon ni gael brecwast llawn a mỳg o goffi am £3.50, bargen lwyr. Prynon ni gig, bara, cacenni i gyd am bris da iawn. Mae’n werth chweil ymweld â’r farchnad a bydden ni mynd eto heb amheuaeth.”

Ar Trip Advisor .

“Mae Marchnad Caerdydd, carchar blaenorol, yn cynnig dau lawr o stondinau mewn amgylchedd Fictoraidd. Mae’n bosibl prynu bron unrhyw beth yma, felly mae’n berffaith ar gyfer crwydro.”

Ar y Lonely Planet .

Y diweddaraf

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am yr holl newyddion, digwyddiadau a chynigion marchnad diweddaraf.

Facebook
Twitter

© Cardiff Council Property - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd