Eich ymweld â Marchnad Caerdydd

Mae Marchnad Caerdydd (neu’r Farchnad Ganolog) mewn lleoliad canolog yng nghanol dinas fywiog a chyffrous Caerdydd. Mae yno ddwy fynedfa; un sy’n dod o Heol Eglwys Fair, ac un a leolir yn Heol y Drindod, yn agos at Eglwys Sant Ioan. Mae mynedfa Heol y Drindod mewn lleoliad sydd wedi’i neilltuo i gerddwyr yn unig. Mae’r ardal hon wedi’i thirweddu ac mae seddi ar gael i siopwyr eu defnyddio wrth gymryd hoe fach yn ystod diwrnod prysur yn siopa yn y Brifddinas.

Oriau agor

Dydd Llun i dydd Sadwrn 8.00 am. i 5.00 pm.

Lleoliad

Marchnad Caerdydd
Heol Eglwys Fair
CF10 1AU

Parcio

Mae digon o gyfleusterau parcio ar gael gerllaw

Mae Gorsaf Caerdydd Canolog a’r orsaf Fysus ond ychydig funudau i ffwrdd ac felly mae’n gyfleus i siopwyr sydd am grwydro o amgylch y tirnod ardderchog hwn yng Nghaerdydd.

Trefnwch eich taith gyda Traveline Cymru

© Cardiff Council Property - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd